Rownd y Mynyddoedd Du – Brett Mahoney Yn Gosod Y Bar

Rownd Mynydd Du

Mae’r rhedwr mynydd Brett Mahoney yn hoff o her eithafol, yn enwedig os yw’r her ym mynyddoedd Cymru sydd mor annwyl iddo.

Yn gynharach y mis yma, cwblhaodd y rhedwr 31 mlwydd oed, sy’n byw yn Y Fenni ac yn gweithio fel swyddog gweithgareddau awyr agored Gwent ar gyfer Y Bartneriaeth Awyr Agored, lwybr rhedeg mynydd cylchol newydd, 116.9 cilomedr – a elwir yn ‘rownd’ – a ddyfeisiodd ei hun yn ardal Mynyddoedd Du Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gan ddechrau a gorffen yng nghanol Y Fenni, aeth y llwybr ag ef a thri cyfaill ar daith laddfaol i gopaon pob un o’r 25 mynydd a bryn sylweddol yn y Mynyddoedd Du.

Cwblhaodd Brett a’i gyfaill Tim Woodier y rownd, gyda 5,263m o uchderau, mewn 20 awr a 37 munud er gwaetha’r gwynt yn hyrddio hyd at 50 milltir yr awr, y stormydd eira a thymereddau minws 15 gradd mewn mannau agored. Disgrifiodd Brett ef fel “cythraul o ddiwrnod allan!”

Mae’n gobeithio rŵan y bydd rhedwyr mynydd eraill yn cael eu hannog i roi cynnig ar Rownd Mynydd Du – Black Mountains Round ac mae’n eiddgar i weld pa mor sydyn y gallent gwblhau y daith.

Ymunodd ffrindiau Brett a Tim gyda hwy ar y daith, sef Dylan Williams, a gyflawnodd ei darged ei hun o gwblhau hanner y daith, a Ryan Flowers, a orfodwyd i stopio 10 cilomedr o’r diwedd oherwydd y tywydd rhewllyd – mae’n bwriadu rhoi cynnig arall ar y rownd mewn amodau cynhesach.

“Mwynheais bob eiliad o’r daith hyd at 95 cilomedr,” meddai Brett. “Wedi hynny, dechreuais arafu ac roedd yn ryddhad cael gorffen. Am y 30-40 cilomedr olaf roeddem ni mewn cit mynydda llawn am ei bod hi mor oer.

“’Dwi wedi treulio’r 10 mlynedd diwethaf yn datblygu fy sgiliau awyr agored ac yn arwain yn y Mynyddoedd Du. Roedd yn gyflawniad personol anhygoel i gysylltu’r holl gopaon o fewn un rownd o’r diwedd.”

Cyfunodd Brett y daith gyda chodi £310 mewn nawdd ar gyfer Tîm Achub Mynydd Longtown. “Rydw i a miloedd o rai eraill yn gallu mynd allan ar anturiaethau yn y Mynyddoedd Du gan wybod bod y tîm yma yno os byddwn ni eu hangen,” meddai. “Y nawdd oedd fy ffordd i o roi ychydig o gyfraniad a hyrwyddiad i’r gwaith ardderchog maen nhw’n ei wneud.”

Wrth egluro ei angerdd tuag at fynyddoedd Cymru, a ddechreuodd pan yn blentyn, dywedodd: “Yr agwedd o lesiant yna, o fod allan yng nghanol natur, yn rhai o’r mannau mwyaf anghysbell sy’n dda i’ch enaid. ‘Dwi’n trîn fy nheithiau rhedeg mynydd fel antur ac yn mwynhau bod allan yna yn dod o hyd i’r dull mwyaf effeithlon o symud drwy’r mynyddoedd.”

Mae o wrth ei fodd gyda’i swydd newydd gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored, swydd ddechreuodd ym mis Gorffennaf sy’n cynnwys cefnogi clybiau ac annog mwy o bobl Gwent i gymryd cyfleoedd ar gyfer anturiaethau awyr agored.Brett Mahoney

Mae wedi cynnal sesiwn gyflogadwyedd lwyddiannus ar gyfer rhai 16 i 24 mlwydd oed fu’n cymryd rhan mewn canŵio, beicio mynydd, dringo, cerdded bryniau ac ogofa er mwyn annog sgiliau gweithio fel tîm a sgiliau arwain. Mae mwy o sesiynau wedi eu cynllunio ar gyfer 2022.

Mae hefyd wedi helpu clwb rhedeg mynydd lleol i ehangu ei adran iau ac yn cefnogi hyfforddwyr clwb canŵio Sir Fynwy (‘Monmouth Canoe Club’) gyda chyllid ar gyfer cymhwyster diogelwch dŵr gwyn.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored  – https://partneriaeth-awyr-agored.co.uk – sydd wedi eu lleoli yng Nghapel Curig, yn cefnogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel diddordeb gydol oes er mwyn gwella eu hiechyd a’u llesiant.

Mae Brett yn un o bedwar swyddog datblygu gweithgareddau awyr agored sydd wedi eu penodi ar gyfer Canolbarth a De Cymru, diolch i gefnogaeth ariannol gan Gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru.

Mae ENRaW yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau sy’n gwneud cysylltiadau clir rhwng gwella gwydnwch ein adnoddau naturiol a’n llesiant.

Darperir yr arian drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

About Abichal 40 Articles
I believe ultrarunning can be and is, for many people, a transformative experience. I hope to inspire and encourage runners from all levels of abilities to stretch themselves and discover what they truly are capable of achieving in the running world. To that end we produce a free online magazine, Ultrarunning World, from material produced mostly by ultrarunners from around the globe offering insight and experience from all kinds of ultras and multidays.

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.


*